25.6.10

SLC

Wel os on ni'n meddwl bod y daith o Austin i Denver yn hir, odd y daith o Denver i Salt Lake City yn sicr yn hir! Odd y tren i fod i adel am 8am, so on ni yn yr orsaf drene am 7am, yn barod i fynd ar y tren. Dim ond i ffindo mas bod delay o 2awr ar y tren a odd e ddim i fod i gyrradd nes 10am. I wneud pethe'n wath, odd Sioned wedi bod yn dost y bore ny, yr un peth g odd wedi effeithio Lli ar y daith o Amarillo i Denver. So odd aros yn yr orsaf am ddwy awr yn ychwanegol yn eithaf her!

Yn y pen draw odd y tren dros deirawr yn hwyr yn gadel Denver, odd yn rhoi ein amser cyrraedd yn Salt Lake City wedi 2am. Rhaid odd ffono'r gwesty i wneud yn siwr y bydden ni'n gallu actiwali checio mewn! Dodd dim problem wrth lwc.

Odd y daith yn llawn golygfeydd, rhai o'r golygfeydd mwyaf hynod ni'n dwy erioed wedi'u gweld. Odd Ruby Canyon yn y machlud haul gyda chysgod y lleuad uwchben yn hudol. Llunie ar y ffordd!

So nethon ni gyrradd Salt Lake City a'r gwesty a on ni yn y gwely yn siarad da Mam am 3am amser ni, 10am amser hi, braidd yn surreal! Ma hi bron yn 3pm erbyn hyn, a dim ond nawr y'n ni'n hedo mas i gal cinio! Ma'r ddwy o ni'n starfo! hwyl am y tro, cadwch lygad mas am lunie a mwy o flogio!

Sdim can y diwrnod da ni, ond deffo artist yr eiliad yw Nanci Griffith. Go onm YouTubewch hi!!

No comments:

Post a Comment