6.7.10

extra extra

Heddi fe wnes i, SIoned ANgharad Wyn gyfarfod real live Beverly Hills cops.do wir do wir. a chal sgwrs gyda nhw. lysh

y stori tu ol iddo fe not so great, ond co fe..... odd rhyw foi di torri mewn i sdafell rhyw bobl yn y gwesty trwy eu ffenest. gytid. nes i rhoi disgrifiad o'r perp i'r cops, achos nath e baso fi ar i ffordd mas oi'r gwesty, ond don i ddim yn sylweddoli nes i bod hi'n rhy hwyr i rygbi taclo fe. damo

5.7.10

tynnu tua'r diwedd || And now the end is near

Pa ffordd well na thrulio'r dwrnod cyfan olaf ar y trath ei? Odd hi braidd yn fwll bore ma, ond dodd dim arall da ni i wneud heddi ac on ni'n benderfynnol o fynd i'r trath o leiaf UNWAITH ar ein taith, felly bant a ni yn y bws. Wedi i ni gyrradd, dath yr haul a phipo'i ben bach mas i weud helo, a fuodd hi'n braf ac yn dwym nes bod ni'n gadel trath Santa Monica.

Odd y mor braidd yn ryff ond odd rhaid mynd mewn i'r sPacific. Odd Lli yn fwy sensibl na fi, a nath hi ddim cwpmo ac o ganlyniad dod a hanner y trath nol da hi i'r gwesty fel wnes i!!

So fory ni off gytre, a ma nhaith anturiaethol i yn America yn dod i ben brin 13 mis wedi iddo fe ddecher. Ma hi wedi bod yn antur enbyd yn wir a wy rili di joio. Fel wy wedi addo yn fy Unoldaleithflog fi'n mynd i sgwennu crynodeb o'n amser i mas ma (wy wedi dechre a gweud y gwir ond ma fe ar y cyfrifiadur sy'n gwrthod gwitho ar hyn o bryd, grrr), so cadwch lygad mas. Tan fory, os bydd unrhywbeth da ni i weud.......
-------------

So we spent our final whole day in the states on the beach, what better way is there?! It was a little overcast this morning, but we went anyway as we didn't have anything else to do. So we set off on the bus, and just after we lay down on the beach, the sun started peeking its little face out and soon enough it was bright and warm and sunny.

The surf was amazing on the beach, and quite frankly a little disturbing, but we ventured in to the Pacific nevertheless. I fell a few times, but Lli kept back a bit (sensibly), and therefore didn't carry half of Santa Monica beach back to the hotel with her (!!), like I did.

So tomorrow we're off home, and my adventure in the US has come to an end roughly 13 months after it started, and my has it been an adventure. I'll be sure to write a little article or something to round out the year and I'll post it here, or somewhere I'm sure! We might blog tomorrow, since we'll be needing to waste time at LAX before flying, so keep your eyes peeled (if you care that is!!)

4.7.10

LAdi da

Wel wedai tho chi beth bois, ma bywyd yn galed. Ar y funud ma Lli a fi yn ishte wrth y pwll. Iep, glywoch chi'n iawn, wrth y pwll yn blogio! Ma'n ystafell ni'n agor i'r 'courtyard' lle ma'r pwll, a lle ry'n ni'n cal brecwast yn y bore, neis iawn dife. Ma'r gwesty yn hyfryd, sdafell neis, os bach yn fach, a rhatach nag on ni'n dishgwl!

So ma hi'n ddiwrnod anibyniaeth America heddi, a opn ni'n dishgwl my o ffys a ffaf a dathlu ambwyti'r lle, ond i fod yn onest m dis dim. Bydde mwy o ddathlu wedi bod pe bai ni dal yn San Francisco yn ôl y sôn, ond ta waeth, ma hi di bod yn ddwrnod hyfryd hyd yn hyn, a wy'n siwr bydd digon o joio heno.

Ymddiheuriade, unwaith eto, am bido blogio'n ddigon aml, ond ry' ni unwaith eto di bod yn neud gormod i flogio! Brynon ni CityPASS to, un Hollywood tro ma. Dodd e DDIM mor dda a un San Fran nac un Efrog newydd, ac i fod yn onest basen i ddim rili yn awgrymu bod unrhywun yn i brynu fe, oni bai eich bod chi am wneud popeth yn y llyfryn. Odd Madame Tussauds yn rili dda, ond yn fach iawn, a dim *lot* o gerflunie mewn na. Ond fe wnethon ni rili fwynhau na (cewch weld o'r llunie, sydd i ddod!). Wedyn ethon ni ar Starline Tours of Stars Homes. Wel na beth odd embarasing, ychafi. Ond odd e'n neis cal gweld lle fuon nhw'n ffilmo the Fresh Prince of Bel Air a'r 90210 gwreiddiol. Odd e hefyd werth ishte trw'r ddwy ferch annoying tu ol i ni i gal cwot y dydd (gweler isod). Y noson ny nethon ni fyta ym mwyty Ashton Kutcher sef Ketchup. Bwyd hyfryd a awyrgylch rili neis, a ddim yn rhy ddrud, ar wahan i'r gwin wrth gwrs! Y bwyd gore ma Lli di cal mis ma (Ffowlyn gda chrwstyn lemwn a saws hufennog a thato wedi'i potsho)... ges i rhwbeth gwell y noson ganlynol.

So y dwrnod wedyn ethon ni ar daith gerdded  gwmpas Hollywood, odd ddim yn rhy wael, ond fi'n siwr y bydden ni wedi bod yn aiwn hebddo fe! Ethon ni hefyd i Amgueddfa Hollywood yn hen adeilad Max Factor. Eto diddorol iawn, ond ddim yn fawr iawn, ond gwerth i weld yn sicr, yn enwedig gyda arddangosfa arbennig i Marilyn Monroe na. Ethon ni i fwyty Clafoutis lle ges i'r bwyd gore wy di cal mis ma (Hwyaden gyda saws ffig a pomme de terre au gratin). Ac wrth gwrs, gan mai bwyty Frengig odd e, odd yn rhaid cael caws i bwdin, LYSH!

So na ni wedi cyrradd heddi, a fuon ni lan i Griffith Observatory a wedyn cino bach neis ar YYYYY Santa Monica Boulevard. sifileisd iawn weden i. O ac os nagych chi'n gwbod yn barod, a heb weld y rhaglen deledu (wy ddim, ond dyw  Lli ddim di sdopo mynd mlan ambwyti fe), odd Griffith J. Griffiths yn Gymro, ac ewch i'r wefan i ddarllen mwy amdano fe, neu falle allwch chi ddal gweld y rhagle ar Clic.

Ta beth, ma hi'n yffachol o dym ma, so wy'n mynd am ddip yn y pwll. Mond fory sydd ar ol da ni nawr, trist iawn freri sad. tan toc blantos........


Cwot y dydd:
Merch 1:    who are they building that for again?
Merch 2:   Arnold Schwarzenegger
Merch 1:   (yn hollol siriys) Is he still the boss of California?