4.7.10

LAdi da

Wel wedai tho chi beth bois, ma bywyd yn galed. Ar y funud ma Lli a fi yn ishte wrth y pwll. Iep, glywoch chi'n iawn, wrth y pwll yn blogio! Ma'n ystafell ni'n agor i'r 'courtyard' lle ma'r pwll, a lle ry'n ni'n cal brecwast yn y bore, neis iawn dife. Ma'r gwesty yn hyfryd, sdafell neis, os bach yn fach, a rhatach nag on ni'n dishgwl!

So ma hi'n ddiwrnod anibyniaeth America heddi, a opn ni'n dishgwl my o ffys a ffaf a dathlu ambwyti'r lle, ond i fod yn onest m dis dim. Bydde mwy o ddathlu wedi bod pe bai ni dal yn San Francisco yn ôl y sôn, ond ta waeth, ma hi di bod yn ddwrnod hyfryd hyd yn hyn, a wy'n siwr bydd digon o joio heno.

Ymddiheuriade, unwaith eto, am bido blogio'n ddigon aml, ond ry' ni unwaith eto di bod yn neud gormod i flogio! Brynon ni CityPASS to, un Hollywood tro ma. Dodd e DDIM mor dda a un San Fran nac un Efrog newydd, ac i fod yn onest basen i ddim rili yn awgrymu bod unrhywun yn i brynu fe, oni bai eich bod chi am wneud popeth yn y llyfryn. Odd Madame Tussauds yn rili dda, ond yn fach iawn, a dim *lot* o gerflunie mewn na. Ond fe wnethon ni rili fwynhau na (cewch weld o'r llunie, sydd i ddod!). Wedyn ethon ni ar Starline Tours of Stars Homes. Wel na beth odd embarasing, ychafi. Ond odd e'n neis cal gweld lle fuon nhw'n ffilmo the Fresh Prince of Bel Air a'r 90210 gwreiddiol. Odd e hefyd werth ishte trw'r ddwy ferch annoying tu ol i ni i gal cwot y dydd (gweler isod). Y noson ny nethon ni fyta ym mwyty Ashton Kutcher sef Ketchup. Bwyd hyfryd a awyrgylch rili neis, a ddim yn rhy ddrud, ar wahan i'r gwin wrth gwrs! Y bwyd gore ma Lli di cal mis ma (Ffowlyn gda chrwstyn lemwn a saws hufennog a thato wedi'i potsho)... ges i rhwbeth gwell y noson ganlynol.

So y dwrnod wedyn ethon ni ar daith gerdded  gwmpas Hollywood, odd ddim yn rhy wael, ond fi'n siwr y bydden ni wedi bod yn aiwn hebddo fe! Ethon ni hefyd i Amgueddfa Hollywood yn hen adeilad Max Factor. Eto diddorol iawn, ond ddim yn fawr iawn, ond gwerth i weld yn sicr, yn enwedig gyda arddangosfa arbennig i Marilyn Monroe na. Ethon ni i fwyty Clafoutis lle ges i'r bwyd gore wy di cal mis ma (Hwyaden gyda saws ffig a pomme de terre au gratin). Ac wrth gwrs, gan mai bwyty Frengig odd e, odd yn rhaid cael caws i bwdin, LYSH!

So na ni wedi cyrradd heddi, a fuon ni lan i Griffith Observatory a wedyn cino bach neis ar YYYYY Santa Monica Boulevard. sifileisd iawn weden i. O ac os nagych chi'n gwbod yn barod, a heb weld y rhaglen deledu (wy ddim, ond dyw  Lli ddim di sdopo mynd mlan ambwyti fe), odd Griffith J. Griffiths yn Gymro, ac ewch i'r wefan i ddarllen mwy amdano fe, neu falle allwch chi ddal gweld y rhagle ar Clic.

Ta beth, ma hi'n yffachol o dym ma, so wy'n mynd am ddip yn y pwll. Mond fory sydd ar ol da ni nawr, trist iawn freri sad. tan toc blantos........


Cwot y dydd:
Merch 1:    who are they building that for again?
Merch 2:   Arnold Schwarzenegger
Merch 1:   (yn hollol siriys) Is he still the boss of California?

No comments:

Post a Comment