26.6.10

SlC Sans Gwesty

Ar ol y diwrnod o "jilacso" ddoe - bwyd a dip yn pwll....nethon ni ddim gadel y stafell achos...wel i fod yn onest, rhy llawn ar ol cino!Nath Sioned gal bwyd hyfryd, ond yn anffodus nes i'r dewis anghywir - eto. Ond, nath y gwin lyfli (os yn ddrud) neud lan am y peth!!

Codi bore ma a cal brecwast digon derbyniol yn y gwesty, ond odd e am ddim felly man a man cymryd beth odd yn cael i rhoi! Fe ethon ni mewn wedyn i Downtown mewn i'r 'Temple Square' lle odd yr holl eglwysi (o fath) Mormon. Ym mhobman o ni'n edrych odd na briodas yn mynd mlan, tua 20 ohonyn nhw! Peth mwya swreal eriod! Ond diddorol gweld! Cyple ifanc iawn hefyd, rhai ohonyn nhw, tua 16/17. Ar ol cal gwd lwc rownd fyna, ethon ni i'r ardd lyfli ma a eistedd fyna am gwpwl o orie yn darllen yn yr haul a ca'l bach o gino!

Ar ol ca'l digon o'r spot bach na, odd hi'n amser symud, a ffeindio'n hunen ddim ishe mynd mewn i unrhywle arall...felly cerdded am oesoedd yn y gwres, (ac am rhyw rheswm, odd hi'n dawel iawn iawn yn y dre i gyd, od iawn!!) a diweddu lan bloc o'r gwesty mewn starbucks yn yr aer oer lyfli. A dyna lle fuom ni am weddill y pnawn, cyn mynd i'r bwyty Siapaneaidd gwych ma ar bwys, le gafon ni sushi go iawn! Ond, eto, fel lot o'r troeon arall, nethon ni ofyn am ormod o fwyd ac felly ma fe nawr mewn bocs tec-awê i ni ga'l wedyn!

Eistedd nawr yn y gwesty yn lladd amser cyn mynd am y Zephyr sydd tua 2 awr yn hwyr felly ddim yn gadel SLC tan 1:30am ish, ond yn debygol bydd e'n neud lan yr amser cyn cyrradd San Francisco. Salt Lake City yn bert iawn gyda'r mynyddoedd i gyd rownd i ni, tref ddiddorol iawn rhaid gweud!! 'Mlan i Galiffornia nawr i San Francisco ar y Zephyr.

Hwyl am y trooo, hwyl faaawr!!

No comments:

Post a Comment