2.6.10

pre-teithio

Croeso i flog teithiol Gwenllïan (Lli) a Sioned (Noni). Dyma ble byddwn ni'n postio (yn dyddiol gobeithio) am ein hanturiaethau ni wrth deithio o Tyn Rhos Road yn ne ddwyrain Ohio i Los Angeles ar arfordir y gorllewin. Co fap o ble fyddwn ni'n mynd ar ein taith.


Bydd Lli yn cyrradd ym maes Awyr Cincinnati ar 9 Mehefin ac o fan na byddwn ni'n mynd lan i weld yr hen Lowri Sion yng Ngholumbus cyn dod nol i Tyn Rhos Road am noson a dechre ar ein taith tua'r de! Yn anffodus ni fydd Lli yn 21 nes cwpwl o ddyddie ar ôl i ni ddod nol! Sy'n golygu na fydd hi (yn gyfreithlon) yn cal yfed, a chwaith gyrru'r car. A bydd hi'n sicr ddim yn gyrru'r car. So bydda i muggins yn dreifo'r holl fordd, ar wahan i pan fyddwn in yn y tren rhwng Denver a Sacramento! 


Ta beth sdim un o ni'n gallu aros tan i ni weld yn gilydd a dechre ar y daith so gwell i'r dwrnode nesa ma fynd yn ddigon cloi!!


Nifer o ddyddie i fynd: 7

No comments:

Post a Comment