8.6.10

1 Dydd i fynd!....jelys???

Llai na un diwrnod i fynd tan i Fi a Sioned gael yn aduno yn Cincinnati!!!!! Ffili aros i gyrradd Cincinnati ac i ddechre y daith! Er, braidd yn bryderus ynglyn a hedfan ar ben yn hunan fach ond fi'n siwr byddai'n iawn! Gwely cynnar heno felly i neud yn siwr bod fi on form!

Ma Sioned a fi wedi penderfynnu peidio mynd i Columbus nawr gan bod nifer o gymhlethdode, un o nhw yw bydda i ddim ar y ngore ar ol yr holl deithio. Rheswm arall yw mod i ishe gweld lle ma Sioned wedi bod yn byw dros y flwyddyn ddwethaf!!

Wel, sdim lot mwy gyda fi ddweud. Gobitho byddwn ni'n blogio bob dydd yn neud chi gyd yn jelys o'r holl lefydd godidog a'r hwyl bydd y ddwy o ni'n ca'l!

Ciao!

Lli a Noni.

xx


No comments:

Post a Comment