23.6.10

Is this the way to Amarillo?

Wel na beth odd taith!! O Austin i Denver, monster taith mewn deuddydd. Yn gyntaf o Austin i Amarillo, odd yn ddeg awr o Austin i Amarillo, killer o daith odd felse fe byth yn mynd i gwpla! Ta beth, gyrhaeddon ni a nethon ni ordro pizza rhy fawr i'r ddwy o ni a byta yn y sdafell gyda chwpwl o gwrws.

Bore wedyn dodd Gwenllïan ddim yn teimlo'n holliach y bore wedyn, ond fe ddechreuon ni ar ein ffordd beth bynnag. Wel gorfon ni sdopo i Lli spewo ar ochr yr hewl, a nath hi ddim gwella ar ôl ny, odd rhaid sdopo bob bwyti hanner awr achos odd hi'n poeni i bod hi am fod yn dost to, ond nath hi ddim. Ta beth, nath e neud taith hir yn hirfaith!! Ta beth, cyrhaeddwyd trwy New Mexico, a ni nawr 7 awr tu ôl i bawb gytre. Odd y golygfeydd o New Mexico ymlaen yn hollol hollol HOLLOL anhygoel - y rockies yn eu holl gyfanrwydd gydag eira ar gope rhai o'r mynyddoedd. Rhai o'r golygfeydd gore wy erioed wedi'u gweld!

Ma Denver yn hyfryd, ond yn anffodus dodd dim lot o amser da ni ma, so jest cerdded ambyti fuon ni  heno byddwn ni'n mynd i'r bar lan lloft yn y gwesty a chal gwely cynnar ish gan fod angen i ni fod yn yr orsaf drene erbyn 7 fory er mwyn dal y tren. Os ych chi am weld llunie o Nashville, ewch i www.facebook.com/sioden lle ma nhw wedi'u llwytho o'r diwedd! hwyl am y tro!!!

Can y dydd: Lone Star State of Minds gan Nanci Griffith  achos y linell 'So here I sit alone in Denver, sipping the California wine' y ddwy o ni ffili sdopo canu fe!

No comments:

Post a Comment