13.6.10

Nashville (English below)

Wedi cyrraedd yn saff yn Cincinnati a treilio dwy noswaith yn Rio Grande gyda Sioned cyn dechrau yn gynnar am Nashville.

Taith wedi mynd yn llyfn heb broblemau, ac yn hawdd iawn ffeindio popeth diolch i Pegi Siw, y GPS. Ar ol cyrraedd y gwesty yn nasville a cwlo lawr tipyn bach, fe aethon ni Downtown at y craic! Gan bod y CMA (Coutry Music Awards) Festival ymlaen, roedd y dref yn hîfan!! fe lwyddom ni i gael lle i eistedd mewn bar a chael bwyd lysh a chwpwl o gwrws (ges i, Gwenllian) ddim trafferth o gwbwl! Wedyn ymlaen i far arall gyda cherddoriaeth fyw gret a staff bar cyfeillgar iawn! A dyna lle nethon ni dreilio gweddill y noson yn mwynhau'r gerddoriaeth a'r awyrgylch!

Bore Sadwrn, ar ol brecwast sylweddol (odd yn gynwysiedig yn y pris, jyst aswell gan bod y pris yn ddigon sylweddol yn ei hunan!), dreifon ni draw i'r Grand Ole Opry i fynd i'r amgueddfa a gweld beth arall odd ambytu'r lle. Ond och a gwae!! Odd yr amgueddfa ar gau yn anffodus achos y llifogydd gathon nhw mis dwethaf (ni'n credu). Ond fe gawsom ni gwd pip rownd yr ardal cyn mynd nol i'r gwesty a threilio'r dydd wrth y pwll yn yr haul tanboeth, a'r party animals eraill odd o gwmaps y pwll (odd yn steaming erbyn 3o'r gloch!)

Bore Sul, gadel y gwesty a dechrau'r daith gymharol fer i Femphis. Wedi gwneud de-tour bach i gyrraedd y gwesty (dyw Memphis DDIM mor hawdd a Nashville i crwso) a gan bod check-in ddim tan 3pm , odd gyda ni 2 awr i ladd. Felly fe ethon ni i'r Elmwood Cemetery lle (yn ol Sioned) mae BB King a Johnny Cash wedi eu claddu....dal ddim yn gwbod os yw hyn yn wir gan na ffeindion ni neb...ar ol gyrru rownd am awr a hanner yn y fynwent. Er hyn, wedi mwynhau lot. Lle diddorol iawn!!



Mynd i'r pwll nawr am bach a mynd mas am fwyd wedyn heno. Bydd lluniau yn ymddangos cyn bo hir blantos!

Dydd Mercher 9 Mehefin 2010
Cwot y dydd Ll: Fi'n ifed itha lot ond fi'n credu bod yn liver i'n oce
S: A-fu hefyd
Cân y dydd Let's get the the party started (as enunciated by Shirley Bassey)

Dydd Iau 10 Mehefin 2010
Cwot y dydd S: se fe'n neis cal ffan yn y car falle...
Cân y dydd: Benny and the Jets (Elton John) B-b-b-b-b-b BENNY

Dydd Gwener 11 Mehefin 2010
Cwot y dydd S: ma'r coffi ma'n neis
Ll: fi milkoddd e

Dydd Sadwrn 12 Mehefin 2010
Cwot: S: yffach ma'r pwll yn 9 trodfedd o ddyfnder
Ll: ti'n llu twcho'r llawr te?

Catch y'all later!

---------

After Lli landed safely in Cincinnati and after a few nights at Tyn Rhos, we started the journey to Nashville, early on Friday morning. We arrived safely and easily to Nashville, and promptly headed out after settling in a little to the room. We soaked up the atmosphere of the CMA Festival and found a bar serving food. We had a delicious pulled pork sandwich and a few beers. Then we moved on to the next bar with brilliant live music and a wonderful atmosphere.

Saturday we planned to go to the Grand Ole Opry, but unfortunately it was closed (probably due to the flooding last month). So we drove around a little and then headed back for an afternoon by the pool. That night we had some food in the first place we found with a relatively small waiting time for a table!

Sunday morning we headed out early for Memphis, and though we had little trouble getting to the hotel, the journey was uneventful. Because we were a little early for check in we went to Elmwood cemetery (picture above) for a little drive around.

By now we've settled into the room and we're going to sit a while by the hotel pool and enjoy Beale street's sights and sounds tonight.

'til later y'all

3 comments:

  1. Falch chi'n joio! Cofiwch mynd i bbkings Bar yn Memphis. O, a hefyd y gwesty gyda'r hwyied fi ffili cofio'r enw!

    Anj Xx

    ReplyDelete
  2. Ethon ni i bbking bar nithwr am fwyd! Rili neis - gethon ni ribs.

    Ble odd y gwesty gyda'r hwyied ish??

    xx

    ReplyDelete
  3. Peabody, na fe! Ma fe ar Union Avenue, ar bwys y stadiwm.

    xx

    ReplyDelete