Showing posts with label Texas. Show all posts
Showing posts with label Texas. Show all posts

23.6.10

Is this the way to Amarillo?

Wel na beth odd taith!! O Austin i Denver, monster taith mewn deuddydd. Yn gyntaf o Austin i Amarillo, odd yn ddeg awr o Austin i Amarillo, killer o daith odd felse fe byth yn mynd i gwpla! Ta beth, gyrhaeddon ni a nethon ni ordro pizza rhy fawr i'r ddwy o ni a byta yn y sdafell gyda chwpwl o gwrws.

Bore wedyn dodd Gwenllïan ddim yn teimlo'n holliach y bore wedyn, ond fe ddechreuon ni ar ein ffordd beth bynnag. Wel gorfon ni sdopo i Lli spewo ar ochr yr hewl, a nath hi ddim gwella ar ôl ny, odd rhaid sdopo bob bwyti hanner awr achos odd hi'n poeni i bod hi am fod yn dost to, ond nath hi ddim. Ta beth, nath e neud taith hir yn hirfaith!! Ta beth, cyrhaeddwyd trwy New Mexico, a ni nawr 7 awr tu ôl i bawb gytre. Odd y golygfeydd o New Mexico ymlaen yn hollol hollol HOLLOL anhygoel - y rockies yn eu holl gyfanrwydd gydag eira ar gope rhai o'r mynyddoedd. Rhai o'r golygfeydd gore wy erioed wedi'u gweld!

Ma Denver yn hyfryd, ond yn anffodus dodd dim lot o amser da ni ma, so jest cerdded ambyti fuon ni  heno byddwn ni'n mynd i'r bar lan lloft yn y gwesty a chal gwely cynnar ish gan fod angen i ni fod yn yr orsaf drene erbyn 7 fory er mwyn dal y tren. Os ych chi am weld llunie o Nashville, ewch i www.facebook.com/sioden lle ma nhw wedi'u llwytho o'r diwedd! hwyl am y tro!!!

Can y dydd: Lone Star State of Minds gan Nanci Griffith  achos y linell 'So here I sit alone in Denver, sipping the California wine' y ddwy o ni ffili sdopo canu fe!

18.6.10

Houston, we don't have a problem

Wedi cyrraedd Houston erbyn hyn yn ddidrafferth. Odd hi'n gan gradd Fahrenheit erbyn i ni barcio wrth y gwesty - twym!! Ta beth, dy'n ni ddim wedi blogio cyment ag on i ishe, ond ma ny, fel wedes i ddoe, achos ein bod ni'n joio cyment a ddim ishe gwastraffu amser ar y we!

Odd New Orleans yn bopeth a mwy on ni'n dishgwl. Awyrgylch wych, jazz ymhobman, diodydd o bob math yn rhad a bwyd blasus iawn...gan gynnwys Aligator (sy'n flasus iawn gyda llaw!). Neithiwr gethon ni noson yn Pat O'Briens ar Bourbon Street. Na lle gethon ni'r aligator. Gath Gwenllïan ei IDo am y tro cynta na so gafodd hi ddim ifed, ond dodd hi ddimyn teimlo 100% ta beth, so dodd dim ots! Ta beth, ges i ddau hurricane (y drinc nodweddiadol na - blasus iawn iawn.)

Ni off i Johnson Space Center fory cyn mynd mlaen i Austin i weld Cynthia a wedyn ymlaen i Denver i ddal y trên. Ni'n joio mas draw, hyd yn oed pan i bod hi mor dwym ein bod ni ffili anadlu!

Digywddiad y dydd (ddoe): Sioned yn symud rownd y ford er mwyn i'r fenyw dynnu llun yn Pat O'Briens ac yn sarnu'r Hurricane odd y waitress newydd ddod a iddi dros y llawr i gyd! Typical Sioned. Nath y gwydr ddim torri though, amazingly!

------------

Arrived in Houston without any problems. It was over a hundred degrees by the time we got to the hotel (see picture above). We haven't blogged as much as we'd like, but it's because we've been enjoying ourselves waaaaaay too much!!


So New Orleans was something awesome. Way too humid and hot, but amazing food, drink and atmosphere. Pat O'Briens was the only place to ID Lli so far, and so I was the only one to officially get a Hurricane. De-lic-ious-ly alcoholic! Anyhooo, when the lady came around offering to take ou picture. We thought it would be a lovely souvenir. So when Sioned moved around the table to get closer to Gwenllïan to take a better picture, lo and behold the nearly full Hurricane glass was knocked to the floor via the Caesar salad. The glass wasn't broken but the drink was all over the floor! The picture was taken and bought and a new hurricane was brought free of charge, and so all was right in the world again!


So that was our last night in New Orleans and we're now off to Houston, we'll blog when we get there!


ciao for now