Wel os on ni'n meddwl bod y daith o Austin i Denver yn hir, odd y daith o Denver i Salt Lake City yn sicr yn hir! Odd y tren i fod i adel am 8am, so on ni yn yr orsaf drene am 7am, yn barod i fynd ar y tren. Dim ond i ffindo mas bod delay o 2awr ar y tren a odd e ddim i fod i gyrradd nes 10am. I wneud pethe'n wath, odd Sioned wedi bod yn dost y bore ny, yr un peth g odd wedi effeithio Lli ar y daith o Amarillo i Denver. So odd aros yn yr orsaf am ddwy awr yn ychwanegol yn eithaf her!
Yn y pen draw odd y tren dros deirawr yn hwyr yn gadel Denver, odd yn rhoi ein amser cyrraedd yn Salt Lake City wedi 2am. Rhaid odd ffono'r gwesty i wneud yn siwr y bydden ni'n gallu actiwali checio mewn! Dodd dim problem wrth lwc.
Odd y daith yn llawn golygfeydd, rhai o'r golygfeydd mwyaf hynod ni'n dwy erioed wedi'u gweld. Odd Ruby Canyon yn y machlud haul gyda chysgod y lleuad uwchben yn hudol. Llunie ar y ffordd!
So nethon ni gyrradd Salt Lake City a'r gwesty a on ni yn y gwely yn siarad da Mam am 3am amser ni, 10am amser hi, braidd yn surreal! Ma hi bron yn 3pm erbyn hyn, a dim ond nawr y'n ni'n hedo mas i gal cinio! Ma'r ddwy o ni'n starfo! hwyl am y tro, cadwch lygad mas am lunie a mwy o flogio!
Sdim can y diwrnod da ni, ond deffo artist yr eiliad yw Nanci Griffith. Go onm YouTubewch hi!!
Showing posts with label Amarillo. Colorado. Show all posts
Showing posts with label Amarillo. Colorado. Show all posts
25.6.10
23.6.10
Is this the way to Amarillo?
Wel na beth odd taith!! O Austin i Denver, monster taith mewn deuddydd. Yn gyntaf o Austin i Amarillo, odd yn ddeg awr o Austin i Amarillo, killer o daith odd felse fe byth yn mynd i gwpla! Ta beth, gyrhaeddon ni a nethon ni ordro pizza rhy fawr i'r ddwy o ni a byta yn y sdafell gyda chwpwl o gwrws.
Bore wedyn dodd Gwenllïan ddim yn teimlo'n holliach y bore wedyn, ond fe ddechreuon ni ar ein ffordd beth bynnag. Wel gorfon ni sdopo i Lli spewo ar ochr yr hewl, a nath hi ddim gwella ar ôl ny, odd rhaid sdopo bob bwyti hanner awr achos odd hi'n poeni i bod hi am fod yn dost to, ond nath hi ddim. Ta beth, nath e neud taith hir yn hirfaith!! Ta beth, cyrhaeddwyd trwy New Mexico, a ni nawr 7 awr tu ôl i bawb gytre. Odd y golygfeydd o New Mexico ymlaen yn hollol hollol HOLLOL anhygoel - y rockies yn eu holl gyfanrwydd gydag eira ar gope rhai o'r mynyddoedd. Rhai o'r golygfeydd gore wy erioed wedi'u gweld!
Ma Denver yn hyfryd, ond yn anffodus dodd dim lot o amser da ni ma, so jest cerdded ambyti fuon ni heno byddwn ni'n mynd i'r bar lan lloft yn y gwesty a chal gwely cynnar ish gan fod angen i ni fod yn yr orsaf drene erbyn 7 fory er mwyn dal y tren. Os ych chi am weld llunie o Nashville, ewch i www.facebook.com/sioden lle ma nhw wedi'u llwytho o'r diwedd! hwyl am y tro!!!
Can y dydd: Lone Star State of Minds gan Nanci Griffith achos y linell 'So here I sit alone in Denver, sipping the California wine' y ddwy o ni ffili sdopo canu fe!

Subscribe to:
Posts (Atom)