Showing posts with label Austin. Show all posts
Showing posts with label Austin. Show all posts

25.6.10

SLC

Wel os on ni'n meddwl bod y daith o Austin i Denver yn hir, odd y daith o Denver i Salt Lake City yn sicr yn hir! Odd y tren i fod i adel am 8am, so on ni yn yr orsaf drene am 7am, yn barod i fynd ar y tren. Dim ond i ffindo mas bod delay o 2awr ar y tren a odd e ddim i fod i gyrradd nes 10am. I wneud pethe'n wath, odd Sioned wedi bod yn dost y bore ny, yr un peth g odd wedi effeithio Lli ar y daith o Amarillo i Denver. So odd aros yn yr orsaf am ddwy awr yn ychwanegol yn eithaf her!

Yn y pen draw odd y tren dros deirawr yn hwyr yn gadel Denver, odd yn rhoi ein amser cyrraedd yn Salt Lake City wedi 2am. Rhaid odd ffono'r gwesty i wneud yn siwr y bydden ni'n gallu actiwali checio mewn! Dodd dim problem wrth lwc.

Odd y daith yn llawn golygfeydd, rhai o'r golygfeydd mwyaf hynod ni'n dwy erioed wedi'u gweld. Odd Ruby Canyon yn y machlud haul gyda chysgod y lleuad uwchben yn hudol. Llunie ar y ffordd!

So nethon ni gyrradd Salt Lake City a'r gwesty a on ni yn y gwely yn siarad da Mam am 3am amser ni, 10am amser hi, braidd yn surreal! Ma hi bron yn 3pm erbyn hyn, a dim ond nawr y'n ni'n hedo mas i gal cinio! Ma'r ddwy o ni'n starfo! hwyl am y tro, cadwch lygad mas am lunie a mwy o flogio!

Sdim can y diwrnod da ni, ond deffo artist yr eiliad yw Nanci Griffith. Go onm YouTubewch hi!!

20.6.10

Austin

Cyn gadel am Austin, fe ethon ni i'r Johnson's Sapce Centre yn Houston. Dim lot o eirie i allu disgrifio fe. Hollol amazing. Fe ethon ni ar daith ar y tram rownd y campws a gweld Saturn V yn ei gyfanrwydd, a hefyd mynd i'r adeilad lle odd y roced nesa yn cael ei adeiladu ar gyfer mynd i Fawrth. Gafon ni weld tu fewn i'r gweithle a dysgu lot am beth odd yn mynd mlan na. Ar ol ny, athon ni rownd y ganolfan a mynd rownd i replica space shuttle sydd mas yn y gofod nawr, a cal cyfle i gyffwrdd a'r lleuad...wel rhan ohono fe o nhw wedi cymryd o na, a gweld arddangosfeydd o gerrig o'r lleuad a..y.b Dyrnod hollol wych, a digon o lunie i bawb weld yn y man.


Ar ol trip digon cymhleth i gyrradd ty Cyndie, y fenyw odd Sioned yn nabod o operation Friendship odd jyst tu fas i Austin, gafon ni groeso lyfli wrthi hi a'i sboner, er yr holl cymryd y mic ohonom ni Gymry. Ro'dd pwll masif a 'hot tub' gyda nhw a buom ni yn joli hoitan da cwrw (neu ddau) am tamed bach yn y pwll cyn cal barbeciw a chillo am ddiwedd y nos. Yn anffodus, ar ol mynd i'r 'hot tub' am tymbach, dath haid o gler hiwj a pigo ni!! Ond ni'n iawn....am nawr.

Wedi cyrradd y gwesty yn Austin ac am fynd am fwyd a cerdded rownd Downtown am bach cyn paratoi am y daith hirfaith i Amarillo fory cyn cario 'mlan am Denver dydd mawrth.

Check ya later!

CWOT Y DYDD.  Yn y space centre - LL: 'O waw! so ma nhwn injecto coffi yn lle yfed e yn y gofod ie??' (in my defence, odd rhywbeth odd yn edrych fel nodwydd gyda label yn gweud coffee and cream ar ei bwys e. Siwd on i fod gwbod yn wahanol!)


-----------------


Before leaving for Austin we stopped off in the Space Center in Houston. There are no words to describe it really. It was just immense, we went on a tram tour and saw the astronaut training facility as well as different displays and movies and presentations. It was really well worth it, and I would definitely recommend it to one and all.


It took us a while to get to Cindie's house in Volente, just outside of Austin, the Pegi-Siw our gps didn't recognise all of the roads we were driving on, but we got there in the end. Her house was just amazing, the views breathtaking - just look at the second picture above. we relaxed in the pool until the sun went down, then jumped in the hot tub and wathced the sun setting and a guy in a plane spelling 'All you need is Love' in the air.


We're staying in Austin itself tonight and about to head out now. We'll be in Amarillo tomorrow night and then Denver. keep checking back for postings