So, so fel odd hi fod i fynd o SLC i San Francisco. Amtrak am 11pm o SLC i Sacramento, taxi i'r maes awyr i gasglu'r car a wedyn gyrru i San Francisco. Nid felna bu hi! Beth wy heb weud tho chi ar hwn yw bod rhywun wedi dwyn manylion fy ngharden banc Americanaidd i. Ges i alwad ffôn pan on i yn Salt Lake City yn gofyn os on i'n teithio , ac os felly, os on i wedi bod i Indianapolis ac wedi gwario lot o arian mewn siop Mejier. Yr ateb odd na, odd rhywun wedi dwyn fy manylion banc ac wedi gwario dros $400. On nhw wedi rhewi'r garden, ac felly wy ffili iwso fe o nawr mlan. Gytid. Na'r peth ola on ni angen i ddigwydd! Ta beth, ma'r peth yn cael i sorto mas nawr. Y broblem odd hyn yn achosi odd ma dim ond un garden odd da ni i dalu am bopeth, y ngharden gredyd i.
So ar ôl gwario bron i $40 yn mynd o orsaf Amtrak i'r maes awyr i bigo'r car lan. Problem. Gan ma dim ond y ngharden gredyd i odd da ni i dalu am bopeth, dodd dim digon o arian ar ôl i dalu am y car. shame. On i'n grac, achos y rheswm odd tu ôl i hyn i gyd, nid yn uniongyrchol, ond yn anuniongyrchol, on i ddim wedi gallu rhentu nghar achos bod rhyw idiot (in lieu of a worse word....) wedi dwyn yn fanylion banc i o un o'r gwestai ni wedi aros ynddyn nhw dros y bythefnos a hanner ddiwethaf.
Ta beth, I got over it, a chal brainwêf i drial ffindo bys neu drên i San Francisco, yn hytrach na aros yn Sacramento a chal mwy o arian o rhywle er mwyn rhentu car y dwrnod canlynol. Odd bys yn mynd i Sacramento am 5:30 ac am 7:30. Nethon ni ddim cweit dal y 5:30, ond odd digon o amser i ddal y 7:30pm. So na beth nethon ni. Dim ond jest dros ddwyawr odd y siwrne, ac odd e LOT yn rhatach na rhentu car, a nath pethe witho mas yn well ar y cyfan, achos bydde parco'r car yn y gwesty yn San Francisco yn $28 y noson! A nawr allwn ni hefyd gweyd bod ni wedi bod ar y Greyhound yn ogystal â'r Amtrak!
So na ni hanes y daith i arfordir gorllewinol America. Itha lot o ffaff a sdres, ond ni wedi cyrradd. Fuon ni yn y Museum of Modern Art heddi, fel rhan o CityPASS San Francisco. Fory ma'r Bay Cruise a'r Aquarium ar y list da ni!!
Cwot y diwrnod: (ar ôl gweld y llun hyn ar y chwith)
Ll: Nagyw hwna'n edrych fel Durex paint sample thing?
S: Ti'n meddwl Dulux....
Ll: ha, wps odw!
28.6.10
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
wel am crapi crap crap! o ma pobl mor anoing! gobeithio fydd petha yn mynd lot haws am weddill yr hols!
ReplyDeleteGwenllian - ôsym cwôt!
xxx
Aaah, city pass! luvs it!
ReplyDelete